SL(6)305 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022

Cefndir a diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn estyn y Cyfnod Graddoli Trosiannol ar ôl Ymadael â'r UE i ganiatáu amser ychwanegol i ddatblygu a chwblhau cynigion ar gyfer trefn ffiniau yn y dyfodol sy’n diogelu ein bioddiogelwch ac yn cefnogi masnach.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021 a Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021 er mwyn estyn, o ran Cymru, y dyddiad y daw’r cyfnod graddoli trosiannol i ben, a hynny o 31 Rhagfyr 2022 i 31 Ionawr 2024.

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 er mwyn estyn yr ataliad dros dro ar y gofyniad i baratoadau cig fod wedi eu rhewi’n ddwys pan fyddant yn cael eu mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las neu’r Swistir, er mwyn iddo gyd-fynd â’r dyddiad a bennwyd ar gyfer diwedd yr estyniad i’r cyfnod graddoli trosiannol (rheoliad 2).

Ar 30 Rhagfyr 2022, mae’r offeryn hwn yn disodli’r dyddiad ar gyfer dod â’r cyfnod graddoli trosiannol i ben, fel y nodir yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021, fel na fydd unrhyw wiriadau mewnforio pellach yn dod i rym ar nwyddau iechydol a ffytoiechydol o’r UE yn 2023.  O ganlyniad i’r Rheoliadau hyn, mae’r cyfnod graddoli trosiannol yn cael ei estyn i 31 Ionawr 2024. Mae’r penderfyniad i beidio â chyflwyno gwiriadau pellach ar nwyddau iechydol a ffytoiechydol yn ystod 2023 yn golygu bod y polisïau dros dro a ganlyn yn cael eu hestyn hyd at 31 Ionawr 2024 drwy’r Rheoliadau hwn (gyda pholisïau parhaol i ddilyn maes o law):

• Atal y gofyniad i baratoadau cig a fewnforiwyd i Gymru o aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las, neu’r Swistir, gael eu rhewi’n ddwys, gan sicrhau bod yr hawddfraint dros dro hwn yn cyd-fynd â’r rheolaethau cyfnod graddoli trosiannol diwygiedig. Bydd hyn yn caniatáu i baratoadau cig o'r gwledydd hyn barhau i gael eu mewnforio mewn cyflwr oer.

• Eithrio nwyddau personol sy'n rhan o fagiau teithwyr (ac eithrio planhigion i’w plannu) ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta neu eu defnyddio’n bersonol, a chyflenwadau bach o gynhyrchion a anfonir at fodau dynol ac na fwriedir eu rhoi ar y farchnad, rhag rheolaethau swyddogol.

• Eithrio rhai nwyddau penodol a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon neu Weriniaeth Iwerddon ac a fewnforir o Weriniaeth Iwerddon rhag y gofynion rhaghysbysu.

Gweithdrefn

Negyddol

Cafodd y Rheoliadau eu gwneud gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Craffu Technegol

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.     Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu’n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn fod y confensiwn 21 diwrnod yn cael ei dorri (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fynd heibio rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a nodwn yr esboniad am dorri’r confensiwn a roddodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 15 Rhagfyr 2022.

Yn benodol, nodwn y canlynol yn y llythyr:

(1)   “...Rhaid i'r ddeddfwriaeth ddod i rym erbyn 30 Rhagfyr er mwyn sicrhau nad yw'r cyfnod graddoli trosiannol yn dod i ben ac na fydd bwlch yn y darpariaethau trosiannol.  Heb y ddeddfwriaeth hon, ac yn absenoldeb safleoedd rheoli ffin, byddem i bob pwrpas yn cau llwybrau masnach i Gymru ar gyfer rhai nwyddau.  Yn flaenorol mae Rheoliadau sy'n ymwneud â'r Cyfnod Graddoli Trosiannol (TSP) ar gyfer nwyddau sy'n dod i mewn i Brydain Fawr o'r UE a rhai gwledydd eraill, wedi'u cyflwyno gan Lywodraeth y DU ar ran Cymru gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.  Fodd bynnag, penderfynwyd gennym y byddai'n well deddfu yng Nghymru ar y mater hwn gan gydlynu cyn belled ag y bo modd ar sail Prydain Fawr.  Fodd bynnag, mae’r cynnwrf yn San Steffan wedi gohirio cyfarfodydd gweinidogol lle byddai’r polisi yn ymwneud â’r ffin, gan gynnwys estyniad y TSP yn cael ei drafod. Gydag ansicrwydd yn parhau mewn mannau eraill nid oedd modd aros ymhellach ac roedd yn rhaid i ni benderfynu bwrw ymlaen â chyflwyno Rheoliadau i Gymru ar ddyddiad a chyfnod llawer diweddarach nag a fyddai fel arfer yn digwydd.  Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn Ebrill 2022 y byddai’n rhoi’r gorau i gyflwyno rhagor o fesurau rheoli ffiniau tan ddiwedd 2023, ac y byddai Llywodraeth y DU yn adolygu'r trefniadau ar gyfer ffin Prydain, gan gynnwys rheolaethau iechydol a ffytoiechydol (SPS).  Fodd bynnag, ar y pryd, dim ond tan 31 Rhagfyr 2022 y gwnaeth Defra ymestyn y cyfnod graddoli trosiannol gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Felly, mae angen cyflwyno estyniad pellach i'r TSP.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

23 Rhagfyr 2022